Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch
Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Chwefror 25, 2015
Ystafell Briffio'r Cyfryngau yn y Senedd, 12.30pm
Yn bresennol
· Bethan Jenkins AC
· Rhodri Glyn Thomas AC
· Martin Pollard, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
· Craig Owen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
· Judith Nubold, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
· Sophie Haywood, staff cymorth Julie Morgan AC
· Jane Harris
1. Ethol cadeirydd
Enwebwyd, eiliwyd ac etholwyd Bethan Jenkins AC yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch gyfer 2015-16.
2. Ethol ysgrifennydd
Enwebwyd, eiliwyd ac etholwyd Craig Owen AC yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch gyfer 2015-16.
3. Cytuno i gyflwyno adroddiad blynyddol yn dilyn y cyfarfod
Cytunwyd. Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno ar wahân.
4. Trafod camau nesaf y grŵp
· Cafwyd trafodaeth ynglŷn â strategaeth ddysgu prosiect heddwch Cymru, a sut y gellid ei hyrwyddo ymhlith yr Aelodau;
· Awgrymwyd y gallai'r grŵp ganolbwyntio ar fewnfudo ac amlddiwylliannaeth, ac yn benodol ar gynorthwyo ysgolion i wybod pwy sy'n cael eu radicaleiddio, ac i atal hynny;
· Cynigiodd yr ysgrifennydd ddrafftio rhaglen o syniadau (fel siaradwyr gwadd - awgrymwyd un a oedd yn adfer o adeiladau yn Nablus, Palesteina) y gallai pob aelod o'r grŵp ychwanegu ati;
· Trafodwyd sut y gallai'r prosiect pedair blynedd, Cymru dros Heddwch, fod yn rhan o waith y grŵp, a sut y gallai'r grŵp trawsbleidiol roi llwyfan i grwpiau eraill sy'n ymwneud â'r maes hwn;
· Awgrymwyd y dylid archwilio'r modd y gallai prifysgolion Cymru ymwneud ag Academi Heddwch Cymru;
· Awgrymwyd y gellid paratoi darn o waith yn gysylltiedig â nodau strategol Llywodraeth Cymru a sut y maent yn ymwneud â materion heddwch, fel sy'n digwydd ym maes caffael a materion eraill;
· Awgrymwyd bod Mesur Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cael ei archwilio i weld sut y gallai unrhyw ganllawiau atodol ystyried materion heddwch;
· Awgrymwyd bod y grŵp yn ystyried treftadaeth heddwch - prosiectau sy'n ymwneud â’r rhyfeloedd byd, er enghraifft;
· Cynigiwyd y gellid creu partneriaethau rhwng sefydliadau o natur debyg a thynnu sylw pellach at waith y grŵp, drwy dudalen Facebook, a Twitter, er enghraifft. Byddai hyn yn caniatáu i'r grŵp bostio cyfweliadau ag aelodau ar-lein, ymhlith pethau eraill;
· Awgrymwyd y gallai siaradwyr Sefydliad Heddwch Cymru hefyd gyfarfod ag aelodau'r Grŵp. Gellid hefyd gynllunio gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth mewn digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod;
· Awgrymwyd y dylai'r grŵp edrych ar raglen ddeddfwriaethol Cymru a cheisio cymryd rhan mewn ymgynghoriadau.
5. Unrhyw fater arall
Nid oedd unrhyw fater arall a daeth y cyfarfod i ben.